Os bydd pobl eraill yn eich cymuned yn effeithio’n andwyol ar ansawdd eich bywyd yna gallech fod yn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae gennym brofiad o gynorthwyo pobl sy’n delio â’r canlynol:
- niwsans sŵn
- anghydfodau rhwng cymdogion
- difrïo
- ymddygiad bygythiol
- aflonyddwch a brawychu
- fandaliaeth
- difrod troseddol
Os byddwch yn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol, efallai y bydd yn rhaid i chi helpu i ddarparu tystiolaeth cyn y gellir cymryd camau, e.e. cadw dyddiadur o’r pethau sy’n digwydd. Efallai y gofynnir i chi osod cyfarpar recordio yn eich eiddo ar gyfer niwsans sŵn. Efallai y bydd yn rhaid i chi ffonio’r Heddlu ar 101 neu hyd yn oed 999 os bydd yn achos brys.
Mae’n cymryd llawer o amser ac egni i gynnal hyn a byddwn yn eich cefnogi. Yn aml, nid oes ateb cyflym, ond rydym yma i’ch helpu unwaith y byddwch wedi gwneud y penderfyniad i ddechrau cofnodi.
Gall Ffocws Dioddefwyr De Cymru eich helpu drwy wneud y canlynol:
- rhoi cymorth personol, dros y ffôn neu drwy neges destun
- siarad â’r asiantaethau gwahanol dan sylw ar eich rhan
- rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am beth sy’n cael ei wneud
- eich helpu i ddeall y broses o fynd i’r afael â throseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a all gymryd cryn amser
- rhoi cyngor i chi ar eich diogelwch personol a diogelwch eich cartref
- eich cynorthwyo drwy fod yn gyfryngwyr er mwyn ceisio datrys y broblem
- eich helpu i gysylltu ag asiantaethau a gwasanaethau eraill a all hefyd gynnig help
- eich cynorthwyo os bydd eich achos yn mynd i’r llys