Beth yw hyn?

Mae unrhyw weithgaredd rhywiol sy’n ddigroeso neu na roddwyd cydsyniad iddo, yn drosedd rywiol. Mae hyn yn cynnwys cyffwrdd, treiddio, gorfodi i greu neu wylio delweddau neu hyd yn oed siarad mewn ffordd rywiol.

Mae cael eich cymell neu eich gorfodi i gael rhyw neu i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol yn erbyn eich ewyllys yn drosedd. Beth bynnag fo’r sefyllfa – beth bynnag fo’ch cydberthynas â’r unigolyn, ble bynnag yr ydych, beth bynnag rydych yn ei wisgo neu beth bynnag roeddech yn ei yfed neu’n ei gymryd – ni wnaethoch ofyn am gael eich treisio na chael ymosodiad rhywiol ac nid chi oedd ar fai.

Mae gorfodi rhywun i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhwyiol yn erbyn ei ewyllys yn ymwneud â phŵer, rheolaeth a thrais. Nid oes a wnelo dim â dyhead rhywiol, cariad na nwyd. Trais yw pob enghraifft o ryw heb gydsyniad.

 

Os ydych wedi profi trais neu ymosodiad rhywiol, ni waeth beth fo’r amgylchiadau na phwy oedd yn gyfrifol, cofiwch nad chi oedd ar fai.

Sut i gael help

Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu drwy ffonio 999. Os hoffech siarad ag un o swyddogion yr heddlu ond nad yw’n fater brys, gallwch ffonio 101.

Gall eich Swyddog Ffocws Dioddefwyr roi cymorth i chi gael help arbenigol. Cliciwch yma i gael gwybod am eich Tîm Ffocws Dioddefwyr lleol a sut i gysylltu â nhw.

Os hoffech gysylltu â gwasanaeth arbenigol yn uniongyrchol, dyma rai gwasanaethau sydd ar gael yn Ne Cymru

SARC

Gall Sexual Assault Referral Clinic (SARC) ddarparu gwasanaethau os ydych wedi profi trais neu ymosodiad rhywiol p’un a ydych wedi rhoi gwybod i’r heddlu am y drosedd neu’n bwriadu gwneud hynny. Mae gan y canolfannau staff arbenigol sydd wedi’u hyfforddi i’ch helpu i wneud penderfyniadau hyddysg am beth rydych am ei wneud nesaf.

Independent Sexual Violence Advocate (ISVA)

Prif rôl ISVA yw rhoi cymorth a gwybodaeth ymarferol ac emosiynol i oroeswyr sydd wedi rhoi gwybod i’r heddlu neu sy’n ystyried gwneud hynny. Mae ISVA wedi’i hyfforddi i weithio â goroeswyr trais a cham-drin rhywiol. Bydd yn eich helpu i ddeall sut mae’r broses cyfiawnder troseddol yn gweithio.

Os byddwch yn dewis rhoi gwybod i’r heddlu, bydd eich ISVA yn gweithio gyda phartneriaid ac asiantaethau eraill i geisio rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol, yn eich helpu i wneud penderfyniadau a mynd gyda chi i apwyntiadau pwysig ac i’r llys.

Os nad ydych wedi rhoi gwybod i’r heddlu ond eich bod am ystyried eich opsiynau a chael rhagor o wybodaeth, efallai y gall ISVA eich helpu.

Cwnsela

Efallai eich bod o’r farn y byddai therapi neu gwnsela o fudd i’ch helpu i reoli’r trawma sy’n gysylltiedig â’r trais neu’r cam-drin rhywiol, i roi diwedd ar y mater neu i ddatblygu strategaethau ymdopi cadarnhaol. Mae’r asiantaethau a restrir yma yn arbenigo mewn cwnsela ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr trais ac ymosodiadau rhywiol.

  • New Pathways

Mae New Pathways yn darparu amrywiaeth o wasanaethau arbenigol yn cynnwys Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol, gwasanaethau cwnsela ac eiriolaeth i ferched, dynion, plant a phobl ifanc y mae trais neu gam-drin rhywiol wedi effeithio arnynt. Mae gan New Pathways swyddfeydd ledled De Cymru sy’n darparu gwasanaethau i’r saith awdurdod lleol. Gallwch gysylltu â hwy ar: 01685 379 310 neu ewch i’w gwefan i ddysgu mwy am eu gwasanaethau.  www.newpathways.org.uk 

  • Ynys Saff SARC (Caerdydd)

Canolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol yw SARC Caerdydd lle mae amrywiaeth o weithwyr proffesiynol profiadol, wedi’u hyfforddi’n arbennig, yn rhoi help, cefnogaeth a chyngor i ddynion, merched, plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol yng Nghaerdydd a’r Fro.

Gallwch siarad ag aelod o SARC Caerdydd ar: 029 2033 5795