Os cawsoch eich anafu mewn trosedd dreisgar, gallwch wneud cais am iawndal gan yr Awdurdod Iawndal am Anafiadau Troseddol (CICA).

 

Byddwch yn gymwys os cafodd y drosedd ei chyflawni yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac os cafodd yr heddlu eu hysbysu cyn gynted â phosibl.

 

Nid oes ots p’un a yw’r troseddwr wedi’i ddal, ond mae rheolau eraill sy’n effeithio ar eich siawns o gael unrhyw arian. Gall y broses fod yn gymhleth a llafurus, ond byddwn yn esbonio sut mae’r system yn gweithio ac yn eich helpu i wneud hawliad. Os caiff eich hawliad ei wrthod a’ch bod yn penderfynu apelio, yn aml, gallwn helpu â hynny hefyd. Bydd rhai cwmnïau cyfreithiol yn helpu â hawliadau iawndal am anafiadau troseddol, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn codi tâl – byddwn ni’n eich helpu am ddim.

 

Os hoffech wneud hawliad, cofiwch y bydd yn rhaid i chi ailgyflwyno manylion y drosedd. Efallai y bydd hyn yn peri gofid i chi, ond gallwn roi cymorth emosiynol ac ymarferol i chi yn ystod y broses gwneud cais. Gallwch wneud hawliad ar gyfer anaf corfforol a meddyliol ond bydd angen i chi roi tystiolaeth feddygol i gefnogi eich hawliad.

 

Mae rhagor o wybodaeth a’r ffurflenni cais ar gael yn uniongyrchol o Gov.uk: compensation for victims neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0300 003 3601.