Beth yw Aflonyddwch

Aflonyddwch yw pan fydd rhywun yn ymddwyn mewn ffordd sy’n gwneud i chi deimlo’n ofidus, yn llawn cywilydd neu dan fygythiad. Gallai fod yn rhywun rydych yn ei adnabod, fel cymydog neu rywun o’ch ardal leol neu gall fod yn ddieithryn.

Gall eich partner neu gyn bartner hefyd aflonyddu arnoch. Mae ein hadran ar Gam-drin Domestig yn darparu mwy o wybodaeth a chyngor os ydych yw partner neu gyn bartner yn aflonyddu arnoch.

Ymysg yr enghreifftiau o aflonyddwch mae:

  • galwadau ffôn, llythyrau, negeseuon e-bost neu ymweliadau digroeso
  • aflonyddwch rhywiol, yn cynnwys sylwadau geiriol neu gyswllt corfforol digroeso
  • cam-drin a bwlio ar-lein
  • cam-drin a bygythiadau geiriol
  • difrod i’ch eiddo
  • gwybodaeth a gaiff ei rhannu’n faleisus mewn modd sy’n fwriadol er mwyn peri gofid neu ddweud celwydd amdanoch.

 

Beth yw Stelcian?

Ystyr stelcian yw ymddygiad digroeso, mynych, obsesiynol a rheolaethol sy’n gwneud i chi deimlo’n ofidus neu’n ofnus. Gall stelcian ymddangos yn ddibwys i ddechrau ond os bydd patrymau ymddygiad rhywun yn peri gofid neu ofn i chi, dylech ei gymryd o ddifrif. Gall stelciwr fod yn rhywun rydych yn ei adnabod, neu’n rhywun nad ydych yn ei adnabod.

Yn aml, ystyrir rhywun sy’n eich gwylio, eich dilyn neu sy’n aros amdanoch yn stelcian. Gall hyn fod ar sawl ffurf.

Ymysg yr enghreifftiau posibl mae:

  • Defnyddio’r rhyngrwyd dro ar ôl tro i gyhoeddi gwybodaeth amdanoch
  • Cymryd arnynt mai chi ydynt dro ar ôl tro ar y Rhyngrwyd a chyhoeddi gwybodaeth
  • Eich monitro ar-lein dro ar ôl tro
  • Eich gwylio neu ysbïo arnoch dro ar ôl tro
  • Eich dilyn neu aros amdanoch dro ar ôl tro
  • Mynd i’ch cartref neu weithle dro ar ôl tro
  • Anfon llythyrau neu anrhegion atoch dro ar ôl tro
  • Archebu neu ganslo nwyddau yn eich enw dro ar ôl tro
  • Dwyn a/neu ddifrodi eich eiddo dro ar ôl tro
  • Ceisio cael gwybodaeth bersonol amdanoch yn barhaus
  • Bygwth eich anafu chi, eich plant neu’r sawl sy’n agos atoch
  • Cysylltu â’ch ffrindiau, eich teulu a chydweithwyr
  • Anfon negeseuon anweddus neu rywiol

Gall y wefan hon eich helpu i ddeall mwy am stelcian a sut i aros yn ddiogel.

 

Sut i gael help

Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu drwy ffonio 999. Os hoffech siarad ag un o swyddogion yr heddlu ond nad yw’n fater brys, gallwch ffonio 101.

Gall eich Swyddog Ffocws Dioddefwyr roi cymorth i chi gael help arbenigol. Cliciwch yma i gael gwybod am eich Tîm Ffocws Dioddefwyr lleol a sut i gysylltu â nhw.

I gael rhagor o gyngor, help a chymorth ynghylch stelcian ac aflonyddwch, gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Stelcian Genedlaethol

Ffôn: 0808 802 0300

 

Os yw eich partner, eich cyn bartner neu aelod o’ch teulu yn aflonyddu arnoch neu’n eich stelcian a bod angen cyngor arnoch, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth 24 Awr Byd Heb Ofn 0808 8010 800   E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru