Mae seibrdroseddu yn cynnwys unrhyw drosedd a gyflawnwyd gan ddefnyddio cyfrifiadur neu ddyfais caledwedd arall. Mae’n cwmpasu amrywiaeth eang o droseddau, yn cynnwys:

  • Dwyn data personol er budd ariannol neu fudd arall
  • Pornograffi plant

Gall ddigwydd unwaith neu gall fod yn drosedd fynych. Gall ddigwydd i bobl o bob oed. Weithiau, bydd dioddefwyr seibrdrosedd yn teimlo gormod o gywilydd i’w roi gwybod i’r heddlu neu gael cymorth. Mae hefyd yn bosibl eu bod yn cael eu blacmelio i beidio â dweud wrth neb. Os yw hyn yn wir amdanoch chi, mae gennych hawliau i’ch cynorthwyo a’ch diogelu.

Os ydych yn adnabod rhywun sy’n agored i niwed ac y gall Twyll neu Seibrdrosedd fod wedi effeithio arno, yna gallwch hefyd siarad â’r heddlu ar ei ran er mwyn cael rhagor o wybodaeth.

 

Sut i gael help

Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu drwy ffonio 999. Os hoffech siarad ag un o swyddogion yr heddlu ond nad yw’n fater brys, gallwch ffonio 101.

Gallwch gael help arbenigol drwy swyddog Ffocws Dioddefwyr. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am eich Tîm Ffocws Dioddefwyr lleol a sut i gysylltu â nhw.

 

Action Fraud yw canolfan y DU gyfan ar gyfer rhoi gwybod am dwyll a seibrdrosedd lle gallwch roi gwybod os ydych wedi cael eich twyllo neu wedi profi seibrdrosedd. Mae gwefan Action Fraud hefyd yn cynnwys gwybodaeth am yr achosion diwethaf o dwyll a sut i’w hosgoi.

Gallwch roi gwybod am dwyll neu seibrdrosedd gan ddefnyddio’r gwasanaeth cofnodi ar-lein unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos; mae’r gwasanaeth yn eich galluogi i roi gwybod am dwyll a chael help a chefnogaeth. Mae hefyd yn rhoi help a chyngor dros y ffôn drwy ganolfan gyswllt Action Fraud. Gallwch siarad ag arbenigwyr Action Fraud drwy ffonio 0300 123 2040

 

Gwefan yw Get Safe Online sy’n rhoi cyngor ymarferol ar sut i ddiogelu eich hun, eich cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol a’ch busnes yn erbyn twyll, dwyn hunaniaeth, feirysau a sawl problem arall a wynebir ar-lein.