Adrodd am drosedd

Os ydych wedi profi trosedd, bydd angen i chi benderfynu p’un a ydych am ddweud wrth yr heddlu.

Mae’n iawn teimlo’n ansicr am hyn neu boeni am beth fydd yn digwydd os byddwch yn dweud wrth yr heddlu. Efallai y byddwch o’r farn na fydd ots gan yr heddlu. Efallai eich bod wedi cael profiad gwael gyda’r heddlu yn y gorffennol neu efallai eich bod yn poeni os byddwch yn siarad â’r heddlu, y bydd ond yn gwneud pethau’n waeth. Mae rhesymau cadarnhaol dros roi gwybod am drosedd.  Cofiwch fod yr heddlu’n delio â phob math o drosedd bob dydd; dylent drin pawb yn deg a chyfartal, a rhoi eich diogelwch yn gyntaf.

Os byddwch yn rhoi gwybod am y drosedd, mae mwy o siawns y caiff y troseddwr ei ddal a’i ddwyn i gyfrif am beth y mae wedi’i wneud. Mae’r heddlu hefyd yn cadw cofnodion o bob trosedd a gofnodir ac mae’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn ystadegau ac adroddiadau’r llywodraeth. Gall y rhain newid y ffordd y mae’r heddlu’n delio â throseddau a rhannau eraill o’r system cyfiawnder troseddol.

Os byddwch yn penderfynu adrodd am drosedd wrth Heddlu De Cymru, yna byddwch yn cael eich atgyfeirio’n awtomataidd â Ffocws Dioddefwyr De Cymru.Cofiwch y byddwn yn rhoi help a chefnogaeth i chi p’un a fyddwch yn penderfynu adrodd i’r heddlu ai peidio. Dysgwch sut i gysylltu â ni.

 

Sut i adrodd am drosedd

Gallwch adrodd am drosedd mewn sawl ffordd:

  • Os yw’n argyfwng a bod y drosedd yn dal i fynd rhagddi, ffoniwch 999a gofynnwch am yr heddlu.
  • Os nad yw’n argyfwng, ffoniwch 101 i adrodd amdani. Peidiwch â ffonio 999. Nid yw hyn yn golygu nad yw’r drosedd yn bwysig – mae’n helpu’r heddlu i wneud y defnydd gorau o’u hadnoddau.
  • Gallwch fynd i’ch gorsaf heddlu leol a adrodd am y drosedd yno. Mae’r cyfeiriad a’r rhif ffôn yn y cyfeiriadur ffôn lleol neu ar wefan Heddlu De Cymru. Holwch pryd mae eich gorsaf heddlu leol ar agor, gan nad yw pob gorsaf heddlu ar agor drwy’r amser.