Mae cyfiawnder adferol yn rhoi’r cyfle i ddioddefwyr gwrdd â’u troseddwyr neu gyfathrebu â nhw er mwyn egluro effaith wirioneddol y drosedd – mae’n grymuso dioddefwyr drwy roi llais iddynt. Mae hefyd yn dwyn troseddwyr i gyfrif am beth maent wedi’i wneud ac yn eu helpu i gymryd cyfrifoldeb a gwneud iawn. Mae cyfiawnder adferol yn golygu bod dioddefwyr a throseddwyr yn cyfathrebu mewn amgylchedd a reolir er mwyn siarad am y niwed a achoswyd a dod o hyd i ffordd o unioni’r niwed hwnnw.

 

Mae Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Cwmni Adsefydlu Cymunedol, Timau Troseddau Ieuenctid a’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a gall eich helpu i gymryd rhan mewn cyfiawnder adferol os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech ei wneud. Gall eich Tîm Ffocws Dioddefwyr lleol roi cymorth emosiynol i chi drwy gydol unrhyw broses Cyfiawnder Adferol a sicrhau y caiff eich anghenion eu cyflwyno ac y gwrandewir arnoch bob amser. Byddai hyn yn cynnwys mynd gyda chi i gynhadledd wyneb yn wyneb.