Beth yw hyn?

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio ar lawer o bobl a gall effeithio arnoch chi, eich cartref a’ch cymuned. Os ydych yn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol, nid oes raid i chi ymdopi ar eich pen eich hun – gallwn eich helpu i ddelio â hyn.

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cynnwys unrhyw beth sydd wedi Aflonyddu, Codi Ofn neu Beri Pryder i un neu fwy o bobl nad ydynt o’r un cartref, neu sy’n debygol o wneud hynny. Gall fod wedi’i anelu at unigolyn, cymuned neu’r amgylchedd ehangach. Mae sawl ffurf ar ymddygiad gwrthgymdeithasol yn amrywio o niwsans lefel isel i aflonyddwch difrifol. Gall niweidio ffordd pobl o fyw ac ymyrryd â’u gallu i ddefnyddio a mwynhau eu cartref neu gymuned.

 

Ymysg yr enghreifftiau posibl o ymddygiad gwrthgymdeithasol mae:

  • Grwpiau meddw neu swnllyd
  • Aflonyddwch neu frawychu
  • Difrïo
  • Yfed ar y stryd
  • Fandaliaeth neu graffiti/sbwriel
  • Anghydfodau rhwng cymdogion
  • Niwsans sy’n gysylltiedig â chyffuriau
  • Niwsans sŵn
  • Cerbydau yn achosi niwsans

Gall unrhyw un brofi ymddygiad gwrthgymdeithasol a gall effeithio arnoch mewn sawl ffordd. Efallai y byddwch yn gweld:

  • na allwch gysgu
  • eich bod yn teimlo’n bryderus ac ar binnau drwy’r adeg
  • eich bod ofn mynd allan
  • nad ydych yn teimlo’n ddiogel yn eich cartref eich hun
  • bod eich plant yn gofidio
  • eich bod yn newid eich trefn er mwyn osgoi problemau
  • eich bod am symud
  • na allwch siarad ag unrhyw un arall am y peth
  • eich bod yn teimlo bod yn rhaid eich bod wedi gwneud rhywbeth i’w achosi

 

Sut i gael help

Efallai y byddwch o’r farn bod digwyddiad yn fach neu’n ddibwys i ddechrau, ond gall ymddygiad gwrthgymdeithasol bara am gyfnod hir a datblygu i fod yn ddifrifol iawn. Ni chaiff pob ymddygiad gwrthgymdeithasol ei ystyried yn drosedd, ond caiff sawl un ei ystyried felly, neu gall ddatblygu i fod yn drosedd. Gall Ffocws Dioddefwyr De Cymru eich helpu hyd yn oed os nad yw’r heddlu wedi’u galw. Gallwn roi’r wybodaeth a’r cymorth sydd ei angen arnoch i newid pethau.

Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu drwy ffonio 999. Os hoffech siarad ag un o swyddogion yr heddlu ond nad yw’n fater brys, gallwch ffonio 101.

Gall eich Swyddog Ffocws Dioddefwyr roi cymorth i chi gael help arbenigol. Cliciwch yma i gael gwybod am eich Tîm Ffocws Dioddefwyr lleol a sut i gysylltu â nhw.

Os yw’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ymwneud â’r canlynol: cerbydau wedi’u gadael, baw cŵn, tipio anghyfreithlon, sbwriel, cerddoriaeth uchel, parcio anghymdeithasol mynych neu gymdogion swnllyd, gallwch adrodd hyn i’ch Awdurdod Lleol neu ddarparwr tai os yw’n hysbys.