acf
yn rhy gynnar. Mae hwn fel arfer yn ddangosydd ar gyfer rhywfaint o god yn yr ategyn neu'r thema sy'n rhedeg yn rhy gynnar. Dylid llwytho cyfieithiadau ar y weithred init
neu'n hwyrach. Darllenwch Debugging in WordPress am fwy o wybodaeth. (Ychwanegwyd y neges hon yn fersiwn 6.7.0.) in /var/www/vhosts/swvf-2019.spindogs-dev7.co.uk/httpdocs/wp-includes/functions.php on line 6121Mae ein Timau Ffocws Dioddefwyr yn cynnwys staff a gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig. Mae ganddynt wybodaeth am eich ardal leol a chysylltiadau â sawl sefydliad arall.
Gall ein tîm lleol gynnig help a chefnogaeth hirdymor er mwyn eich galluogi i ymdopi ag effeithiau trosedd a dod drostynt.
Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall sut y gallwn eich helpu orau a byddwn yno i chi gyhyd ag y bydd ein hangen arnoch.
Mae ein gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yn ein Timau Ffocws Dioddefwyr, gan roi cymorth emosiynol ac ymarferol i bobl y mae troseddau wedi effeithio arnynt.
Bob dydd, mae ein gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser er mwyn helpu rhywun i droi cefn ar droseddau. Mae eu cymorth yn helpu pobl i deimlo’n gryfach, eu bod yn cael eu deall ac yn gallu symud ymlaen â’u bywydau.
Mae angen gwirfoddolwyr newydd arnom i ymuno â’n timau lleol bob amser felly cysylltwch os ydych o’r farn bod gennych yr amser i weithio gyda ni.