Gall profi troseddau arwain at bob math o broblemau ymarferol. Gall hyn amrywio o fân faterion (fel difrod i’ch eiddo neu orfod llenwi ffurflenni yswiriant), i broblemau meddygol difrifol neu golli eich cartref. Er y gall cymorth emosiynol eich helpu i ddelio â’ch teimladau ar ôl trosedd, yn aml mae problemau ymarferol yn eich atgoffa o’r hyn rydych wedi’i brofi ac yn ei gwneud yn anoddach i chi gael rheolaeth dros eich bywyd eto. Dyna pam rydym hefyd yn cynnig help i fynd i’r afael â goblygiadau ymarferol troseddau.

 

Gallwn helpu â thasgau syml fel llenwi ffurflenni (ar gyfer hawliadau am iawndal, er enghraifft), trwsio drysau a ffenestri a dorrwyd a gosod larymau bwrgleiriad. Gallwn hefyd helpu gyda phroblemau mwy fel cael triniaeth feddygol, ailgartrefu neu ddelio â’r system cyfiawnder troseddol dros gyfnod eich treial. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddeall eich opsiynau a’r camau nesaf.