Beth yw hyn?

Trosedd dreisgar yw pan fydd rhywun yn anafu neu’n bygwth anafu rhywun, ac mae hefyd yn cynnwys troseddau pan gaiff arf ei ddefnyddio. Bydd yr heddlu yn cofnodi bod trosedd yn un dreisgar os bydd yr unigolyn yn amlwg yn bwriadu neu wedi bwriadu eich anafu’n gorfforol, ni waeth p’un a fydd yn arwain at anaf corfforol.

Gall troseddau treisgar gynnwys:

  • ymosodiad
  • trais rhywiol
  • trais gang
  • troseddau casineb
  • lladrad
  • trais domestig
  • llofruddiaeth neu ddynladdiad

Gall trosedd dreisgar ddigwydd mewn mannau cyhoeddus fel ar y stryd, mewn clybiau a thafarndai, yn ogystal ag yn y cartref neu’r gweithle, ac yn aml bydd y dioddefwr yn adnabod yr unigolyn sy’n ymosod arno. Y peth pwysig i’w gofio yw nad chi sydd ar fai – nid ydych wedi gwneud dim o’i le, a’r unigolyn a fu’n dreisgar sydd ar fai – does gan neb yr hawl i’ch anafu.

 

Sut i gael help

Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu drwy ffonio 999. Os hoffech siarad ag un o swyddogion yr heddlu ond nad yw’n fater brys, gallwch ffonio 101.

Gallwch gael help drwy swyddog Ffocws Dioddefwyr. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am eich Tîm Ffocws Dioddefwyr lleol a sut i gysylltu â nhw