Beth yw hyn?

Trosedd neu ddigwyddiad a gyflawnwyd oherwydd pwy ydych chi neu bwy mae rhywun yn meddwl ydych chi. Yn syml, os, oherwydd eich oedran, anabledd, rhywioldeb, crefydd, ethnigrwydd, rhyw (yn cynnwys hunaniaeth o ran rhyw) neu ddewis ffordd o fyw (e.e. Goth) mae rhywun neu grŵp o bobl yn eich targedu, yn troseddu yn eich erbyn, yn eich bwlio neu’n aflonyddu arnoch, yna mae hyn yn drosedd casineb neu’n ddigwyddiad casineb.

Gall hyn gynnwys:

  • Difrïo
  • Graffiti sarhaus
  • Ymddygiad bygythiol
  • Difrod i eiddo
  • Ymosodiad
  • Seibrfwlio
  • Negeseuon testun, negeseuon e-bost neu alwadau ffôn dilornus
  • Cymryd arian oddi wrthych

 

Sut i gael help

Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu drwy ffonio 999. Os hoffech siarad ag un o swyddogion yr heddlu ond nad yw’n fater brys, gallwch ffonio 101.

Gall eich Swyddog Ffocws Dioddefwyr roi cymorth i chi gael help arbenigol. Cliciwch yma i gael gwybod am eich Tîm Ffocws Dioddefwyr lleol a sut i gysylltu â nhw.

Os hoffech gysylltu â gwasanaeth arbenigol yn uniongyrchol, dyma rai gwasanaethau sydd ar gael yn Ne Cymru:

 

  • Canolfan Genedlaethol Swyddogol ar gyfer Adrodd am Droseddau Casineb yng Nghymru.

Gwasanaeth yw hwn a ddarperir gan Victim Support ac sydd ar gael lle bynnag rydych yn byw. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhoi cymorth i unrhyw un sydd wedi profi troseddau casineb a gall eich helpu i roi gwybod amdanynt.

Gallwch gysylltu â’r gwasanaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, drwy ffonio 0300 30 31 982 neu fynd ar-lein yn http://www.reporthate.victimsupport.org.uk/trosedd-casineb/

 

  • Race Equality First – Prosiect Eiriolaeth a Grymuso mewn perthynas â Throseddau Casineb

Mae’r prosiect hwn yn cynorthwyo dioddefwyr troseddau neu ddigwyddiadau casineb sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ac yn siarad ar eu rhan.

Cysylltwch ar: 02920 486207  E-bost: info@raceequalityfirst.org.uk

 

  • Swansea Bay Regional Equality Council – Voices Have Spoken

Caiff y prosiect hwn ei gyflwyno i roi eiriolaeth a chymorth i ddioddefwyr troseddau casineb yn ardal Bae Abertawe gan gwmpasu ardaloedd Dinas a Sir Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd a Phort Talbot.

Cysylltwch ar: 01792 457035  E-bost: vhs@sbrec.org.uk

Gwefan:  http://sbrec.org.uk/whats-new/voices-have-spoken/