Gall plant a phobl ifanc brofi sawl math o drosedd, ond efallai na fyddant yn sylweddoli eu bod yn ddioddefwyr, efallai na fyddant yn mynd at yr heddlu a gall y System Cyfiawnder Troseddol eu drysu. Mae’n peri pryder y gall rhai hyd yn oed ystyried bod trosedd dreisgar, fel cam-drin rhywiol, mygio a thrais yn rhan arferol o dyfu i fyny. Yn aml, caiff troseddau yn erbyn pobl ifanc eu cyflawni gan rywun y maent yn ei adnabod a gall hyn gymhlethu pethau.

Gall troseddau, fel Cam-drin Domestig yn y cartref, effeithio’n anuniongyrchol ar blant a phobl ifanc, a chaiff effaith hyn ei hanghofio yn aml.

 

Sut i gael help

Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu drwy ffonio 999. Os hoffech siarad ag un o swyddogion yr heddlu ond nad yw’n fater brys, gallwch ffonio 101.

Gall eich Swyddog Ffocws Dioddefwyr roi cymorth i chi gael help arbenigol. Cliciwch yma i gael gwybod am eich Tîm Ffocws Dioddefwyr lleol a sut i gysylltu â nhw.

 

Caiff You and Co ei redeg gan Victim Support. Mae’r wefan yn edrych ar fathau gwahanol o droseddau, sut y gall plant a phobl ifanc deimlo ar ôl profi trosedd a beth y gallant ei wneud os byddant am gael cymorth drwy fynd at yr heddlu neu heb wneud hynny.

Mae Childline ar gael i helpu unrhyw un dan 19 oed yn y DU ag unrhyw broblem sydd ganddynt. Mae Childline am ddim, mae’n gyfrinachol ac mae ar gael unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos. Gallwch siarad â nhw ar y ffôn, dros e-bost neu drwy gael sgwrs bersonol â chwnselydd.

Cysylltwch â nhw ar 0800 1111 unrhyw bryd

Gwasanaeth llinell gymorth yw Meic ar gyfer plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru.

Cysylltwch ar 0808 80 23456 (8am – hanner nos) neu drwy anfon neges destun i 84011