Mae Ffocws Dioddefwyr De Cymru yn wasanaeth lleol a gaiff ei redeg gan yr elusen genedlaethol ac annibynnol, Cymorth i Ddioddefwyr. Rydym yn rhoi cymorth a chefnogaeth i unrhyw un yn Ne Cymru sydd wedi’i effeithio gan drosedd.

Nid ydym yn rhan o’r heddlu, y llysoedd nac unrhyw asiantaeth cyfiawnder troseddol arall. Mae ein gwasanaethau am ddim, yn gyfrinachol ac ar gael p’un a roddwyd gwybod am y drosedd ai peidio, a waeth pryd y digwyddodd. P’un a ydych wedi cael eich effeithio yn uniongyrchol gan drosedd, yn adnabod rhywun sydd wedi cael ei effeithio, neu os ydych wedi bod yn dyst i rywbeth, rydym yma i chi.

Mae ein staff a’n gwirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, wedi’u lleoli yn eich ardal chi, a gallant gynnig cymorth a chefnogaeth ar unwaith, ac yn yr hirdymor, er mwyn eich galluogi i ymdopi ag effeithiau trosedd a dod drostynt.

Rydym yn deall bod profiad pawb yn wahanol. Mae’n bosibl y byddwch yn teimlo amrywiaeth o emosiynau, efallai y bydd gennych gwestiynau heb eu hateb neu efallai y byddwch yn teimlo eich bod wedi drysu ynglŷn â’r hyn fydd yn digwydd nesaf. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddeall sut y gallwn eich helpu orau a byddwn yno i chi gyhyd ag y bydd ein hangen arnoch.