Caiff Ffocws Dioddefwyr De Cymru ei ddarparu gan Victim Support. Sefydlwyd Victim Support dros 40 blynedd yn ôl, a dymau’r brif elusen annibynnol i ddioddefwyr yng Nghymru a Lloegr. Mae’r arbenigedd manwl ac eang sydd ganddo yn rhoi safbwynt unigryw iddo, gan ei alluogi i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i’r sawl y mae troseddau a digwyddiadau trawmatig. Er bod Victim Support yn gweithio’n lleol ledled y DU, mae hefyd yn ymgyrchu’n genedlaethol er mwyn sicrhau y rhoddir anghenion y sawl y mae troseddau wedi effeithio arnynt yn gyntaf ac y caiff lleisiau dioddefwyr eu clywed.

Mae’n bleser gan Victim Support ddefnyddio ei brofiad a’i arbenigedd i gyflwyno Ffocws Dioddefwyr De Cymru. Mae’n parhau i feithrin cydberthnasau sefydledig â phartneriaid statudol a sefydliadau gwirfoddol ar draws y saith Awdurdod Lleol gan sicrhau dull sy’n canolbwyntio ar y dioddefwr ym mhopeth a wna.

 

Dysgwch fwy am y gwaith a wna Victim Support ledled y DU.