Ariennir Ffocws Dioddefwyr De Cymru gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, y Gwir Anrh Alun Michael. Yn 1974, roedd y Comisiynydd yn un o dri pherson a sefydlodd grŵp cyntaf Victim Support yng Nghymru gan ddilyn menter debyg gan NACRO ym Mryste. Mae gwreiddiau Victim Support yn ddwfn yn hanes diweddar De Cymru ac mae’r Comisiynydd yn falch iawn ei fod yn dal i weithio gyda Victim Support heddiw gan eu bod yn cyflwyno’r gwasanaeth hanfodol hwn i’r rhai y mae troseddau wedi effeithio arnynt yn Ne Cymru.

Mae’r Comisiynydd yn dal rôl hirsefydledig fel eiriolwr i’r sector gwirfoddol. Mae ei ddealltwriaeth o’r rôl hanfodol sydd gan wirfoddolwyr yn lleol yn deillio o’r ffaith iddo gael ei fagu mewn teulu lle’r oedd gwirfoddoli yn ffordd o fyw. Cafodd y fraint o weithio gyda’r sector ym mhedair gwlad y DU rhwng 1992 a 1997 er mwyn datblygu polisïau’r Blaid Lafur a rhoi’r polisïau hynny ar waith fel y Dirprwy Ysgrifennydd Cartref, gan gyflwyno trefniadau’r compact sydd wedi gweithio mor effeithiol yn Ne Cymru.

 

 

Mae Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn gynrychiolwyr etholedig sy’n gweithio i sicrhau bod heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn cael eu rhedeg yn effeithiol. Daeth y Gwir Anrh Alun Michael yn Gomisiynydd cyntaf yr Heddlu a Throseddu dros Dde Cymru ar 22 Tachwedd 2012 a chafodd ei ailethol ar gyfer ail dymor ar 6 Mai 2016.

Ym mis Ebrill 2015, trosglwyddodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y cyfrifoldeb o gyllido rhai gwasanaethau dioddefwyr i Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Mae’r Comisiynydd a’i dîm yn gweithio gyda phartneriaid a darparwyr gwasanaethau er mwyn archwilio pa wasanaethau sydd eu hangen ar bobl a nodi bylchau yn y ddarpariaeth bresennol. Ymgynghorir â dioddefwyr lleol hefyd er mwyn sefydlu eu hanghenion, eu profiadau o gysylltu â dioddefwyr ac awgrymiadau ar sut y dylid llunio’r gwasanaethau.

Mae gwella canlyniadau i ddioddefwyr troseddau yn flaenoriaeth allweddol i’r Comisiynydd a nodir hyn yn ei Gynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu. Mae’r cynllun yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer yr Heddlu ac yn gwneud ymrwymiad yn Ne Cymru i weithio i ddiogelu’r unigolion sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau a sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol yn gweithio’n effeithiol ac yn effeithlon i ddiwallu anghenion dioddefwyr.

Ewch i wefan Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru i:

  • Ddysgu mwy am rôl y Comisiynydd
  • Cael copi o Gynllun yr Heddlu a Gostwng Troseddu
  • Dysgu mwy am brosiectau eraill a ariennir gan y Comisiynydd
  • Clywed am gyfleoedd i ymgysylltu ac ymgynghori